#

P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad.
Y Pwyllgor Deisebau | 11 Rhagfyr 2018
 Petitions Committee | 11 December 2018
 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-849

Teitl y ddeiseb: Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Geiriad y ddeiseb:

Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith a sicrhau bod sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig (mpMRI) o ansawdd uchel cyn biopsi ar gael i bob dyn cymwys yng Nghymru lle mae amheuaeth bod arno ganser y prostad.

                                                                                                                          


Y cefndir

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin mewn dynion yng Nghymru, ac mae'n cyfrif am ychydig dros chwarter yr achosion o ganser mewn dynion. Yng Nghymru, cafwyd 12,592 diagnosis o ganser y prostad rhwng 2011 a 2015.

Mae'r profion a ddefnyddir fynychaf ar gyfer diagnosis canser y prostad yn cynnwys profion gwaed (prawf antigen penodol i'r prostad (PSA)), archwiliad corfforol o'r prostad (a elwir yn archwiliad rhefrol digidol), a biopsi traws-refrol uwchsain (TRUS). Gall biopsi achosi anesmwythder, ac mae ei sgil-effeithiau posibl yn cynnwys gwaedu a heintiau. Gallant hefyd fethu â chanfod hyd at un o bob pum achos o ganser y prostad, gan nad yw union leoliad y canser yn hysbys pan fydd y biopsi yn cael ei wneud.

Yn ôl gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 (a elwir yn PROMIS - Astudiaeth Delweddu MR y Prostad), gallai defnyddio dull sganio MP-MRI fel prawf cyn biopsi, a hynny yn ôl blaenoriaeth, leihau nifer y biopsïau nad oes eu hangen a gallai wella'r modd y canfyddir canser sy'n sylweddol glinigol. (Gall sganiau MP-MRI greu lluniau manylach o'r prostad na sganiau MRI safonol).

Mae'r elusen Prostate Cancer UK yn ymgyrchu ynghylch y mater hwn, ac mae wedi gwneud rhywfaint o waith i ganfod nad yw mynediad at driniaeth MP-MRI yn gyfartal ar draws y DU. Dywed yr elusen:

Some areas in Wales do not offer access to mpMRI before biopsy at all. This is in large part due to a lack of resources to achieve widespread adoption. However, our activities have encouraged the Welsh Urology Board, with support from the Welsh Programme of Care Board, to make the adoption of mpMRI before biopsy a top priority.

Two centres in Wales are already leading the way, with Cwm Taf providing a one-stop shop service – like the RAPID pathway being piloted in England - and Aneurin Bevan, transforming its diagnostic pathway so that every man with suspected of having prostate cancer gets an mpMRI scan before a biopsy as standard practice.

We are working in collaboration with the Welsh Planned Care Programme team and Welsh Urology Board to support Welsh Health Boards in the adoption of high-quality, pre-biopsy mpMRI.

Un datblygiad allweddol y dylid bod yn ymwybodol ohono yw bod y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) wrthi'n diweddaru ei ganllawiau ar ddiagnosis a rheoli canser y prostad, a bydd yn ystyried defnyddio prawf cyn biopsi MP-MRI yng ngoleuni canfyddiadau treial PROMIS.    

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb.

Yn ei ymateb i'r Pwyllgor, nododd Ysgrifennydd y Cabinet ei ddisgwyliad bod Byrddau Iechyd yn darparu gofal cyson o ansawdd uchel yn unol â chanllawiau clinigol perthnasol, fel y rhai a gyhoeddwyd gan NICE.

Mae'n nodi nad yw NICE yn argymell prawf cyn biopsi MP-MRI ar hyn o bryd, ond ei fod wrthi'n adolygu ei ganllawiau ar ddiagnosis a rheoli canser y prostad. Disgwylir i'r canllawiau gael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2019.

Dywedodd:

If NICE recommends pre-biopsy mpMRI then I will expect all Health Boards to amend their pathways accordingly. However, what the Welsh Government cannot do is make a decision on what is the most clinically appropriate pathway to investigate suspected prostate cancer. This must be the responsibility of Health Boards and clinical leaders, based on the evidence available. I expect there to be greater consistency in service provision after the NICE guidelines have been updated.